6 lines
595 B
Plaintext
6 lines
595 B
Plaintext
|
|
Rhyfeddod neu ffenomenon optegol a meteorolegol yw enfys, pan fydd sbectrwm o olau yn ymddangos yn yr awyr pan fo'r haul yn disgleirio ar ddiferion o leithder yn atmosffer y ddaear.
|
||
|
|
Mae'n ymddangos ar ffurf bwa amryliw, gyda choch ar ran allanol y bwa, a dulas ar y rhan fewnol.
|
||
|
|
Caiff ei greu pan fo golau o fewn diferion o ddŵr yn cael ei adlewyrchu, ei blygu (neu ei wrthdori) a'i wasgaru.
|
||
|
|
Mae enfys yn ymestyn dros sbectrwm di-dor o liwiau; mae'r bandiau a welir yn ganlyniad i olwg lliw pobol.
|
||
|
|
Disgrifir y gyfres o liwiau'n gyffredinol fel coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, indigo a fioled.
|